Canada Uchaf

Canada Uchaf
Enghraifft o'r canlynolTrefedigaeth y Goron, cyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
Daeth i ben10 Chwefror 1841 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu26 Rhagfyr 1791 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganProvince of Quebec Edit this on Wikidata
Olynwyd ganProvince of Canada Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddProvince of Quebec Edit this on Wikidata
OlynyddCanada-Ouest, Province of Canada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Talaith Canada Uchaf (Saesneg: Province of Upper Canada, Ffrangeg: Province du Haut-Canada) yn adran wleidyddol o Ganada Brydeinig a sefydlwyd yn Neddf Gyfansoddiadol 1791 gan yr Ymerodraeth Brydeinig i lywodraethu traean canolog Gogledd America Prydain ac i roi llety i ffoaduriaid Teyrngarol yn dilyn Rhyfel Annibyniaeth yr Unol Daleithiau.[1]

Bodolai talaih Canada Uchaf rhwng 26 Rhagfyr 1791 hyd 10 Chwefror 1841 ac yn gyffredinol yn cynnwys yr hyn sydd yn awr yn ne talaith Ontario gyfredol. Mae'r rhagddodiad "uwch" yn ei enw yn adlewyrchu ei safle daearyddol uwch o fewn basn Afon Saint Lawrence neu'n agosach at ei blaenddyfroedd na Chanada Isaf (Quebec heddiw) i'r gogledd-ddwyrain.

Cynhwysai Canada Uchaf, yn ogystal â de Ontario, yr ardaloedd o ogledd Ontario a ffurfiodd y pays d'en haut a fu'n rhan o Ffrainc Newydd, yn ei hanfod Basn Afon Ottawa, Llyn Huron, a Llyn Superior. Nid oedd yn cynnwys unrhyw diriogaeth Bae Hudson.

  1. Smith, Simon (1998). British Imperialism 1750–1970. Cambridge University Press. t. 28. ISBN 978-3125806405.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search